Mae gan Gymdeithas Contractwyr Peirianneg Sifil Cymru, neu CECA (Cymru) aelodaeth o rhyw 50 o gwmniau wedi eu lleoli ar draws Cymru.
'Rydym yn cynrychioli'r cwmniau cynhenid Gymreig o wahanol faint, yn ogystal a'r cwmniau Prydeinig a rhyngwladol, gan sicrhau fod yna gydweithio iach a phriodol gyda'r amrywiol gyrff sy'n ymwneud a'n maes.
Byddwn yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd gyda Gweinidogion ac uchel-swyddogion Llywodraeth Cymru, ac hefyd gyda CSS Cymru sy'n cynrychioli holl awdurdodau lleol Cymru.
Hefyd mae perthynas agos rhyngom ag Asiantaeth yr Amgylchedd yng Nghymru a chyrff tebyg,gan gynnwys Cymdeithas i Ymgynghorwyr a Pheiriannwyr Cymru, ac 'rydym yn cefnogi gwaith Sgiliau Adeiladu Cymru a Adeiladu Arbenigrwydd yng Nghymru.
Mae CECA (Cymru) wedi bod yn flaenllaw yn hybu datblygu hyfforddiant a sgiliau, ymgyrchu dros wella'r gyfundrefn bwrcasu, a sicrhau safon ac ansawdd uchel o fewn y diwydiant.
